Pan sefydlwyd hi yn 1110 aeth tref Aberteifi yn lle masnach o bwys ac erbyn oes Elizabeth roedd Aberteifi wedi tyfu’n un o borthladdoedd pwysicaf Cymru. Roedd nwyddau yn arfer cael eu masnachu a da byw yn cael eu gwerthu a’u lladd ar y stryd fawr tan yn gynnar yn y 19egth ganrif pryd y sefydlwyd llad-dy gan ddyn busnes cefnog, a oedd yn fanciwr ac yn dafarnwr, yn Lôn y Farchnad wrth i’r farchnad ei hunan aros ar y stryd.
Wrth i’r dref ehangu ymhellach, dewiswyd lleoliad ar gyfer cyfleusterau newydd pwrpasol ar Free School Bank yn union y tu allan i furiau’r dref ganoloesol, man amlwg ar ben Stryd y Priordy a oedd yn cael ei thorri trwodd ar y pryd. Roedd ysgol ramadeg wedi ei sefydlu yno eisoes a chafodd honno ei hail-leoli yn yr adeiladau newydd.
Cafodd y cynlluniau ar gyfer Neuadd y Dref a Neuadd y Farchnad eu cymeradwyo yn 1856 a’r adeiladau eu hagor yn 1860. Roedd i’r datblygiad ystafelloedd cymunedol yn Neuadd y Dref, cyfnewidfa ŷd a storfa, mannau masnachu ar gyfer da byw a nwyddau a chwrt. Yr adeiladau oedd y rhai dinesig cyntaf ym Mhrydain i’w codi yn yr arddull ‘fodern Gothig’ a hyrwyddwyd gan John Ruskin. Roeddent yn dangos dylanwad Arabaidd a hwnnw i’w weld yn glir yn addurniadau’r bwâu yn y ddau adeilad.
Mae’r adeiladau hyn, y mae Cadw yn meddwl yn fawr ohonynt, wedi’u cofrestru’n 2* ac yn cael eu cydnabod bellach fel rhai o bwys cenedlaethol sy’n unigryw i Gymru ac i’r Deyrnas Gyfunol. Yn sgil problemau strwythurol cynnar yn Neuadd y Dref tynnwyd y simnai o’r wyneb deheuol a gosodwyd clymau o haearn bwrw, wedi eu gosod o’r blaen i’r cefn. Nodwyd safle’r clymau gan y pennau addurnol a ychwanegwyd ar ochr stryd y Neuadd.
Ychwanegwyd tŵr cloc yn 1892 wedi’i godi dros y fynedfa, a hwnnw’n dalp sgwâr o garreg a chofeb arno; cafodd yr ochrau uchaf eu gogwyddo tuag i mewn a’u gorchuddio â llechi o dan blatfform cloc sgwâr roedd haen metel amdano. Roedd pedwar wyneb i’r cloc ac ar ei ben dŵr penfain metel a phedair ochr iddo yntau. Ar ben y tŵr ceir ceiliog-y-gwynt wedi ei drydyllu sy’n dangos y llong a’r castell ar sêl y dref. Mae wynebau haearn y cloc yn bedair troedfedd o led a’i freichiau o gopr; mae’r gwydr yn anhryloyw ac fe’i goleuwyd yn wreiddiol â lampiau nwy. Roedd dymchwel yr adeiladau i gyd neu ran ohonynt yn cael ei awgrymu yn rheolaidd ar ôl 1945 ac roedd yna gynigion ar gyfer maes parcio ac, yn ddiweddarach, ar gyfer strwythur modern siopa a marchnad y tu mewn i furiau allanol Neuadd y Farchnad ynghyd â bloc gwydr deulawr ar bileri ar gyfer swyddfeydd ar y lefel uchaf.
Er hynny, ni wnaeth yr un o’r cynigion hyn ddwyn ffrwyth ac ar droad yr unfedst ganrif ar hugain aeth cefnogaeth ariannol yn bosibiliad; dechreuodd trafodaethau ynglŷn â’r gwaith adnewyddu a thrwsio roedd ei angen i ddiweddaru Neuadd y Dref a Neuadd y Farchnad ac i’w gwneud nhw’n addas i’w dibenion. Wedi’r gwaith adfer a gyflawnwyd yn 2009 mae Neuadd y Dref bellach yn gyrchfan ac yn oriel ffyniannus. Mae Neuadd y Farchnad yn gartref i 30 stondin wahanol a’u nwyddau yn cynnwys cynnyrch lleol, crefftau a gwasanaethau; mae bellach ar fin cael ei gweddnewid yn lle mwy hygyrch a mwy ymarferol i fusnesau lleol bychain ffynnu.