Prosiectau

Gwarchod adeiladau yng nghanol Aberteifi

Neuadd y Dref

Cyn
Guildhall After
Wedyn
Cyfleuster sydd wedi ei gofrestru gan Cadw o dan Radd 2* mewn safle canolog yn Stryd Fawr Aberteifi. Agorwyd ef yn 1860 gan roi cartref i’r ysgol ramadeg leol, llyfrgell ddiwinyddol, ystafell ddarllen / cyfarfod, siambr gyngor ac i neuadd gymunedol. Darllenwch ymlaen….

Y Cwrt

Cyn
Courtyard After
Wedyn

Roedd y Cwrt yn arfer cynnig man lwytho a dadlwytho i ffwrdd o’r brif stryd drwy’r dref. Defynddid ef fel lle i gymdeithasu wrth i fusnes gael ei wneud ac yn achlysurol fel ‘mart’ hyd y 1950au. Darllenwch ymlaen….

Y Gyfnewidfa Ŷd

Corn exchange gallery before restoration
Cyn
Corn Exchange Gallery
Wedyn

Bellach mae’n lle arddangos celfyddydau a chrefftau lleol ond defnyddid y fan hon o’r blaen ar gyfer prynu a gwerthu ŷd. Cafodd ei hadnewyddu fel rhan o brosiect Neuadd y Dref, gan gynnwys mynedfa wydr a ffenestri sy’n agor y Cwrt yn weledol fel man gyhoeddus. Darllenwch ymlaen….

Neuadd y Farchnad

Cyn

Market After
Wedyn

Cafodd y farchnad ei chodi fel adeilad pwrpasol ac ei hagor yn 1861 ar gyfer masnachu da byw a nwyddau sych. Mae prosiect presennol Neuadd y Farchnad yn bwriadu cynnwys dehongliad treftadaeth a gweithgareddau treftadaeth i ddathlu hanes pensaernïol a chymdeithasol Neuadd y Farchnad. Darllenwch ymlaen….