Neuadd y Farchnad

Lower floor wide isle market hall

Wedi’r agoriad yn 1851, roedd Neuadd y Farchnad yn gartref i farchnad ar gyfer da byw ar y llawr isaf ac i farchnad gynnyrch ffres ar lefel y stryd. Cyn hynny, gwerthid cynnyrch ffres ar y stryd fawr ac yna ar safle rhwng y stryd fawr a Mwldan Isaf a aeth yn rhy fach ar fyr o dro.

Dros hanner can mlynedd yn ôl roedd y farchnad da byw wedi symud i leoliad newydd i’r de o‘r afon a’r gwerthiant o gynnyrch ffres ar y llawr uchaf wedi crebachu. Newidiwyd y safle er mwyn iddo gael ei ddefnyddio gan fath gwahanol o fasnachwyr.

Dros y blynyddoedd, bu’r awdurdod lleol yn cynnal a chadw’r adeilad ond mae angen ei drwsio a’i ddiweddaru wedi mynd yn fwyfwy amlwg, yn enwedig i wella hygyrchedd.

Rhwng 2014 a 2021 bu’r Ymddiriedolaeth yn ymgymryd â’r gwaith sylweddol o fanylu ar ddiffygion ac anghenion yr adeilad.

Rhoddodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol arian inni dderbyn cymorth proffesiynol i ddatblygu’r cynlluniau. Ac yn sgil hynny llwyddodd y prosiect i ddatgloi arian o ffynonellau eraill, yn enwedig drwy Raglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol (‘RhAD’) sydd yn manteisio ar arian Ewrop ac yn cael ei llywio gan Lywodraeth Cymru. Ariennir y prosiect hefyd gan Gyngor Sir Ceredigion, cynllun Trawsffurfio Trefi Llywodraeth Cymru, Cronfa Cymunedau Arfordirol (a weinyddir gan y Loteri Genedlaethol dros Llywodraeth Cymru), Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol (ail grant), Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru sydd wedi’i hariannu, fel yr RhAD, gan yr Undeb Ewropeaidd a chan Cadw. Mae Cronfa Treftadaeth Bensaernïol wedi parhau i gefnogi’r prosiect drwy fenthyciad dros dro.

Yn 2021 gellid cychwyn ar y gwaith adeiladu a bellach (Mawrth 2023) mae’r gwaith ar y Neuadd ei hun ar fin cael ei gyflawni. Bydd yr hen a’r newydd yn gymysg yn yr adeilad ar ôl yr atgyweiriad. Mae llechi o Gymru ar y to newydd drwyddi draw, system gwres canolog wedi ei gosod o dan y llawr isaf sydd ei hun wedi’i adnewyddu gan ailddefnyddio cynifer o’r slabiau gwreiddiol o lechi Cilgerran ag y bo modd, mae’r waliau wedi eu trin i ddal dŵr, mae’r system trydan wedi ei moderneiddio yn gyfan gwbl ac mae paneli solar ar y to. Bydd y Neuadd ar ei newydd wedd yn cynnwys cyfleusterau i ddehongli’r dreftadaeth a gweithgareddau i ddathlu ei hanes pensaernïol a chymdeithasol fel canolfan bywiog i gymunedau lleol a’r rhai ehangach.

Mae’r gwaith o godi tŵr mynediad wrth y Neuadd a lift, grisiau a thoiledau i’r anabl ynddo, ar ei hôl hi ryw ychydig ond disgwylir y bydd hwnnw wedi’i orffen erbyn haf 2023.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi rhoi prydles 99 mlynedd ar Neuadd y Farchnad i’r Ymddiriedolaeth ar delerau hael.

Erbyn hyn, mae cost y prosiect wedi cyrraedd tua £3m.