Codwyd y Gyfnewidfa Ŷd yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel rhan o adeiladau Neuadd y Dref ar gyfer prynu a gwerthu grawn. Cyn yr adnewyddiad mwyaf diweddar roedd y lle yn cael ei defnyddio o dro i dro gan arlunwyr lleol i arddangos eu gwaith a hefyd fel llyfrgell Aberteifi. Cafodd y lle hwn ei adnewyddu fel rhan o brosiect Neuadd y Dref, gan gynnwys mynedfa o wydr a ffenestri i agor y Cwrt yn weledol fel man cyhoeddus.