Roedd y Cwrt yn arfer cynnig lle i lwytho a dadlwytho nwyddau oddi ar y stryd fawr trwy’r dref. Roedd hefyd yn lle i gymdeithasu pan oedd busnes yn cael ei wneud ac yn achlysurol yn farchnad da byw. Cyflawnwyd gwaith i ailbalmantu’r lle yn 2011-14 gan ychwanegu goleuadau, seddi a photiau planhigion, a phyrth newydd o dan y bwa i alluogi’r cwrt i gael ei ddefnyddio’n lle cyhoeddus i gynulliadau a digwyddiadau.