Yn 2005 aeth yr Ymddiriedolaeth, ynghyd â Menter Aberteifi, ati i gychwyn gwaith ar y broses o adfer Neuadd y Dref. Penodwyd Acanthus Holden Architects i lunio Arolwg ar y Dewisadau, Astudiaeth Ddichonolrwydd a chynlluniau i’r prosiect er mwyn dod â’r adeilad eiconig hwn yn ôl i ddefnydd llawn gan y cyhoedd. Erbyn 2007 roedd y prosiect ar ei anterth a chontractwyr yn gorffen y gwaith adfer yn barod am ailagor Neuadd y Dref fel cyrchfan amlbwrpas, ynghyd ag oriel o flaen y Stryd Fawr, ym Mehefin 2009.
Mae’r cyrchfan treftadaeth hwn ar y llawr uchaf yn gartref bellach i’r Neuadd Fawr, a’i nenfwd yn fwaog, sydd ar gael ar gyfer dawns, dosbarthiadau ymarfer corff, cyfarfodydd mawr, priodasau a chyngherddau; mae’r Siambr yno hefyd, sy’n ystafell banelog ac yn addas ar ei phen ei hun i gyfarfodydd yn ogystal â bod ar gael, ynghyd â’r Neuadd Fawr, i’r cynulliadau mwyaf. Ar y llawr isaf, mae Ystafell Radley, sy’n gymwys iawn i weithdai, cyfarfodydd a digwyddiadau cymunedol, yn ogystal â chegin fasnachol sy’n llawn cyfarpar a hefyd fannau ar gyfer swyddfeydd.
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi rhoi prydles hir ar yr adeilad (a’r cwrt) i’r Ymddiriedolaeth. Rydym yn gyfrifol am drwsio’r adeiladwaith allanol ac mae Menter Aberteifi Cyf yn rhedeg yr adeilad o ddydd i ddydd o dan isbrydles.