{"id":132,"date":"2021-01-06T12:58:26","date_gmt":"2021-01-06T12:58:26","guid":{"rendered":"https:\/\/cardiganbpt.cymru\/?page_id=132"},"modified":"2022-12-07T16:50:49","modified_gmt":"2022-12-07T16:50:49","slug":"heritage","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/cardiganbpt.cymru\/cy\/heritage\/","title":{"rendered":"Etifeddiaeth"},"content":{"rendered":"<p><img decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" class=\"wp-image-328 size-full aligncenter\" src=\"https:\/\/cardiganbpt.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/06110006-before-1024x768.jpg\" alt=\"\" srcset=\"https:\/\/cardiganbpt.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/06110006-before-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/cardiganbpt.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/06110006-before-300x225.jpg 300w, https:\/\/cardiganbpt.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/06110006-before-768x576.jpg 768w, https:\/\/cardiganbpt.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/06110006-before-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/cardiganbpt.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/06110006-before-1568x1176.jpg 1568w, https:\/\/cardiganbpt.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/06110006-before.jpg 2048w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/p>\n<p>Pan sefydlwyd hi yn 1110 aeth tref Aberteifi yn lle masnach o bwys ac erbyn oes Elizabeth roedd Aberteifi wedi tyfu\u2019n un o borthladdoedd pwysicaf Cymru.  Roedd nwyddau yn arfer cael eu masnachu a da byw yn cael eu gwerthu a\u2019u lladd ar y stryd fawr tan yn gynnar yn y 19eg<sup>th<\/sup> ganrif pryd y sefydlwyd llad-dy gan ddyn busnes cefnog, a oedd yn fanciwr ac yn dafarnwr, yn L\u00f4n y Farchnad wrth i\u2019r farchnad ei hunan aros ar y stryd.<\/p>\n<p>Wrth i\u2019r dref ehangu ymhellach, dewiswyd lleoliad ar gyfer cyfleusterau newydd  pwrpasol ar Free School Bank yn union y tu allan i furiau\u2019r dref ganoloesol, man amlwg ar ben Stryd y Priordy a oedd yn cael ei thorri trwodd ar y pryd. Roedd ysgol ramadeg wedi ei sefydlu yno eisoes a chafodd honno ei hail-leoli yn yr adeiladau newydd.<\/p>\n<p>Cafodd y cynlluniau ar gyfer Neuadd y Dref a Neuadd y Farchnad eu cymeradwyo yn 1856 a\u2019r adeiladau eu hagor yn 1860.   Roedd i\u2019r datblygiad ystafelloedd cymunedol yn Neuadd y Dref, cyfnewidfa \u0177d a storfa, mannau masnachu ar gyfer da byw a nwyddau a chwrt. Yr adeiladau oedd y rhai dinesig cyntaf ym Mhrydain i\u2019w codi yn yr arddull \u2018fodern Gothig\u2019 a hyrwyddwyd gan John Ruskin.  Roeddent yn dangos dylanwad Arabaidd a hwnnw i\u2019w weld yn glir yn addurniadau\u2019r bw\u00e2u yn y ddau adeilad.<\/p>\n<p>Mae\u2019r adeiladau hyn, y mae Cadw yn meddwl yn fawr ohonynt,  wedi\u2019u cofrestru\u2019n 2* ac yn cael eu cydnabod bellach fel rhai o bwys cenedlaethol sy\u2019n unigryw i Gymru ac i\u2019r Deyrnas Gyfunol. Yn sgil problemau strwythurol cynnar yn Neuadd y Dref tynnwyd y simnai o\u2019r wyneb deheuol a gosodwyd clymau o haearn bwrw, wedi eu gosod o\u2019r blaen i\u2019r cefn.  Nodwyd safle\u2019r clymau  gan y pennau addurnol a ychwanegwyd ar ochr stryd y Neuadd.<\/p>\n<p>Ychwanegwyd t\u0175r cloc yn 1892 wedi\u2019i godi dros y fynedfa, a hwnnw\u2019n dalp sgw\u00e2r o garreg a chofeb arno; cafodd yr ochrau uchaf eu gogwyddo tuag i mewn a\u2019u gorchuddio \u00e2 llechi o dan blatfform cloc sgw\u00e2r roedd haen metel amdano.  Roedd pedwar wyneb i\u2019r cloc ac ar ei ben d\u0175r penfain metel a phedair ochr iddo yntau.  Ar ben y t\u0175r ceir ceiliog-y-gwynt wedi ei drydyllu sy\u2019n dangos y llong a\u2019r castell ar s\u00eal y dref.  Mae wynebau haearn y cloc yn bedair troedfedd o led a\u2019i freichiau o gopr;  mae\u2019r gwydr yn anhryloyw ac  fe\u2019i goleuwyd yn wreiddiol \u00e2 lampiau nwy.  Roedd dymchwel yr adeiladau i gyd neu ran ohonynt yn cael ei awgrymu yn rheolaidd ar \u00f4l 1945 ac roedd yna gynigion ar gyfer maes parcio ac, yn ddiweddarach, ar gyfer strwythur modern siopa a marchnad y tu mewn i furiau allanol Neuadd y Farchnad ynghyd \u00e2 bloc gwydr deulawr ar bileri ar gyfer swyddfeydd ar y lefel uchaf.<\/p>\n<p>Er hynny, ni wnaeth yr un o\u2019r cynigion hyn ddwyn ffrwyth ac ar droad yr unfed<sup>st<\/sup> ganrif ar hugain aeth cefnogaeth ariannol yn bosibiliad; dechreuodd trafodaethau yngl\u0177n \u00e2\u2019r gwaith adnewyddu a thrwsio roedd ei angen i ddiweddaru Neuadd y Dref a Neuadd y Farchnad ac i\u2019w gwneud nhw\u2019n addas i\u2019w dibenion.  Wedi\u2019r gwaith adfer a gyflawnwyd yn 2009 mae Neuadd y Dref bellach yn gyrchfan ac yn oriel ffyniannus.  Mae Neuadd y Farchnad yn gartref i 30 stondin wahanol a\u2019u nwyddau yn cynnwys cynnyrch lleol, crefftau a gwasanaethau; mae bellach ar fin cael ei gweddnewid yn lle mwy hygyrch a mwy ymarferol i fusnesau lleol bychain ffynnu.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>When the town of Cardigan was established in 1110 it became an important trading point and by Elizabethan times, Cardigan had grown into one of the most important ports in Wales. Commodities were traded and livestock was sold and slaughtered on the main street until the early 19th century when a wealthy local banker and &#8230; <a title=\"Etifeddiaeth\" class=\"read-more\" href=\"https:\/\/cardiganbpt.cymru\/cy\/heritage\/\" aria-label=\"More on Heritage\">Read more<\/a><\/p>","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":2,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-132","page","type-page","status-publish"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cardiganbpt.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/132","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cardiganbpt.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/cardiganbpt.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cardiganbpt.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cardiganbpt.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=132"}],"version-history":[{"count":12,"href":"https:\/\/cardiganbpt.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/132\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":534,"href":"https:\/\/cardiganbpt.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/132\/revisions\/534"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cardiganbpt.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=132"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}