Howard Williams
Cadeirydd a Thrysorydd
Ar ôl graddio o Brifysgol Caergrawnt ymunodd â’r Gwasanaeth Sifil gan arbenigo mewn materion ariannol. Treuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa yng Nghanol Llundain. Mae Howard yn cyfrannu ei wybodaeth eang am gyfrifeg a’i brofiad hir o weithio y tu mewn i reolau a rheoliadau y maes ariannol i waith yr Ymddiriedolaeth.
Lindsay Sheen
Ysgrifennydd y Cwmni
Mae gan Lindsay radd BSc anrhydedd ac enillodd Dystysgrif Addysg i Ôl-raddedigion a chymwyster AAT ym Mhrigysgol Manceinion. Mae ei phrofiad yn cynnwys 10 mlynedd o ddysgu a bod yn arweinydd nifer o brosiectau datblygu cymunedol. Yn 2003 aeth yn Rheolwr Canol Tref Aberteifi ac yna yn 2005 Reolwr Neuadd y Dref. Bu’n nerth sylfaenol wrth ddatblygu’r Ymddiriedolaeth ar gyfer atgyweirio Neuadd Tref Aberteifi a’r adeiladau cysylltiedig â hi gan weithio ar ariannu’r prosiect gwerth £1.3 miliwn.
Julian Orbach
Ymddiriedolwr
Mae Julian yn ŵr gradd o Goleg Madlen Rhydychen ac yn hanesydd pensaernïaeth adnabyddus gan arbenigo yn adeiladau Oes Fictoria. Penodwyd yn aelod er anrhydedd o Gymdeithas Frenhinol Penseiri Cymru yn 2010 wrth adnabod ei waith ar ‘The Buildings of Wales’. Mae’n awdur y ‘Blue Guide to Victorian Buildings in Britain, 1987’ a chynhyrchodd ‘Cardigan Guildhall and Markets, Historic Buildings Appraisal’ i’r Ymddiriedolaeth. Mae Julian wedi gweithio gyda’r ‘Victorian Society’, CADW a ‘RCAHMW’. Mae’n aelod gwreiddiol o’r Ymddiriedolaeth.
Martin Davies
Ymddiriedolwr
Enillodd Martin y radd B.Arch yn 1979. Yn ystod y 1990au gweithiodd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wrth oruchwylio’r atgyweiriad o adeiladau allanol fferm y plas yn Llanerchaeron gan roi ar waith ddulliau trwsio cadwriaethol. Rheolodd y prosiect i godi Theatr Mwldan oddi wrth weddillion y lladd-dy lleol. Mae’n aelod gwreiddiol o’r Ymddiriedolaeth, a ffurfiwyd ar gyfer atgyweirio adeiladau Aberteifi, a gweithiodd ar Fenter Treftadaeth Treflun Aberteifi. Mae ei waith cyfredol yn cynnwys newidiadau ac estyniadau i ffermdai a bythynnod, yn aml y rhai cofrestredig.
Dick Evans
Ymddiriedolwr
Ar ôl graddio gyda B.Arch yn 1967, enillodd Dick M.Sc ym maes rheoli prosiectau o Brifysgol Reading yn 1996. Treuliodd 20 mlynedd fel partner yn swyddfa Alex Gordon yng Nghaerdydd, 10 milynedd gydag Arup yn eu swyddfeydd yng Nghaerdydd, Sydney a Singapore wrth weithio ar adeiladau gan gynnwys Tŷ Opera Sydney a Phwll Olympaidd Beijing.
David Llewelyn Owen
Ymddiriedolwr
Yn fiolegydd amgylcheddol bellach hyfforddodd David fel saer coed a saer celfi gan weithio ym mhrif ffrwd y diwydiant adeiladu am flynyddoedd lu. Sefydlodd fusnes arbenigol o drwsio hen adeiladau yn Ne a Gorllewin Cymru a dysgodd fyfyrwyr mewn cadwraeth adeiladau ar lefel radd ym Mhrifysgol Abertawe.
Ann Stokoe
Ymddiriedolwr
Wedi sawl blwyddyn mewn gweinyddiaeth gyffredinol swyddfaol enillodd Ann Ddiploma mewn Astudiaethau Rheolaeth, Tystysgrif Addysg a chymwyster AAT. Bu’n gweithio fel Cynorthwywraig Bersonol i reolwyr cyhoeddusrwydd yn y maes argraffu a chyhoeddi ac mewn cymdeithas fasnach yn y diwydiant cludo nwyddau. Yn y 1980au bu’n Rheolwraig Cynhyrchu Golygyddol i United Magazines yn y maes sain / darlledu. Dysgodd astudiaethau marchnata, cyllid a busnes ar lefel Addysg Bellach. Ar ôl symud i Orllewin Cymru gweithiodd ar Fenter Treftadaeth Treflun Aberteifi a threuliodd wyth mlynedd gyda Menter Aberteifi yn gyntaf fel Rheolwraig Brosiectau ac wedyn fel Rheolwraig Gyffredinol Neuadd y Dref a’r Farchnad. Yn ystod y cyfnod hwnnw sefydlodd hi ei busnes ei hun gan ddarparu cefnogaeth weinyddol a chyllidol i fusnesau lleol.